Llythyrau Paul at y Corinthiaid
Oddi ar Wicipedia
| Y Beibl |
|---|
| Y Testament Newydd |
|
Dau lythyr gan yr Apostol Paul yn y Testament Newydd yw Llythyrau Paul at y Corinthiaid, sef Llythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid (I Corinthiaid) ac Ail Lythyr Paul at y Corinthiaid (II Corinthiaid). Fe'u hysgrifenwyd gan Paul at Gristnogion cynnar yn ninas Corinth, Gwlad Groeg, tua'r flwyddyn 57 OC. Dyma'r seithfed a'r wythfed o lyfrau'r Testament Newydd yn y Beibl canonaidd.
I Corinthiaid [golygu]
Yn y llythyr cyntaf, mae Paul yn trafod problemau yn yr eglwys gynnar ac yn ateb cwestiynau ar sawl pwnc sy'n ymwneud ac athrawiaeth a bywyd ymarferol y Cristion, fel er enghraifft priodas a gwyryfdod, atgyfodiad y meirw, a'r Ewcarist.
II Corinthiaid [golygu]
Yn yr ail lythyr, mae'r apostol yn esbonio natur ei weinidogaeth ac yn ei amddiffyn ei hun yn erbyn ei wrthwynebwyr yng Nghorinth.