Llythyrau 'Rhen Ffarmwr

Oddi ar Wicipedia
Llythyrau 'Rhen Ffarmwr
Enghraifft o'r canlynolcasgliad, gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurWilliam Rees Edit this on Wikidata

Casgliad o lythyrau gan William Rees (Gwilym Hiraethog) yw Llythyrau 'Rhen Ffarmwr. Cyhoeddwyd y llythyrau ym mhapur newydd Yr Amserau o 1846 ymlaen, ac mewn papurau newydd eraill ar ôl diwedd y papur newydd hwnnw ym 1859. Ysgrifennir y llythyrau yn nhafodiaith Sir Ddinbych mewn arddull blaen dan enw 'Yr Hen Ffarmwr'. Maen nhw'n mynegi barn synnwyr cyffredin am nifer o bynciau llosg y dydd. Yn wleidyddol mae'r llythrau yn cefnogi achos y Rhyddfrydwyr ac achos y tenantiaid yn erbyn y meistri tir. Maen nhw'n beirniadu ceisiadau i ailgyflwyno Treth yr Ŷd yn llym, ac yn mynegi anfodlonrwydd Anghydffurfwyr â'r degymau a dalwyd i Eglwys Loegr.

Casglwyd detholiad o'r llythyrau a ymddangosodd yn Yr Amserau at ei gilydd mewn un gyfrol wedi'i golygu gan Isaac Foulkes ym 1878. Cyhoeddwyd detholiad arall gan E. Morgan Humphreys ym 1939.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Llythyrau 'Rhen Ffarmwr, gol. E. Morgan Humphreys (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1939).