Llysiau gwlithog trionglog

Oddi ar Wicipedia
Oscularia deltoides
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Planhigyn blodeuol
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau craidd
Urdd: Caryophyllales
Teulu: Aizoaceae
Genws: Oscularia
Rhywogaeth: O. deltoides
Enw deuenwol
Oscularia deltoides
Martin Heinrich Gustav Schwantes

Planhigion blodeuol â dwy had-ddeilen (neu 'Deugotyledon') yw Llysiau gwlithog trionglog sy'n enw lluosog. Mae'n perthyn i'r teulu Aizoaceae yn y genws Oscularia. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Oscularia deltoides a'r enw Saesneg yw Deltoid-leaved dewplant. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Chwyslys Trionglog. Ystyr delta (a 'deltoid' ydy 'triongl').

Cynefin gwreiddiol 96% o'r teulu hwn o blanhigion yw de Affrica, ac mae'r planhigyn hwn yn frodor o benrhyn gorllewinol De Affrica.[1] Mae'n blanhigyn suddlon gyda blodau llachar ac mae'n tyfu ar greigiau. Tyf hyd at 30 cm (12 mod) gan wasgaru'n isel, fel carped. Mae ganddo ddeiliach llwydlas fel plu'r gôg ac mae pob deilen yn dew gyda thair ochr, fel yr awgryma'r enw. Mae ganddynt hefyd ymylon daneddog, coch. Mae'r bonyn yn aml yn wawr o goch neu borffor.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Oscularia deltoides". plantzafrica.com. S A National Biodiversity Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2013.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: