Llysiau'r afu palmwyddog
Oddi ar Wicipedia
| Llysiau'r afu palmwyddog | |
|---|---|
| Planhigyn benywaidd | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Rhaniad: | Marchantiophyta |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Marchantiales |
| Teulu: | Marchantiaceae |
| Genws: | Marchantia |
| Rhywogaeth: | M. polymorpha |
| Enw deuenwol | |
| Marchantia polymorpha L. |
|
Un o lysiau'r afu mwyaf cyffredin yw llysiau'r afu palmwyddog (Marchantia polymorpha). Mae'n tyfu ar bridd a chreigiau mewn amrywiaeth o gynefinoedd llaith, gan gynnwys gerddi a thai gwydr. Mae'n rhywogaeth fawr sy'n cyrraedd 10 cm o hyd. Mae'n cynhyrchu strwythurau atgenhedlu o siâp palmwydden (planhigion benywaidd) neu barasol (planhigion gwrywaidd).