Llysiau'r afu
Oddi ar Wicipedia
| Llysiau'r afu | |
|---|---|
| Llysiau'r afu palmwyddog (Marchantia polymorpha) | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Rhaniad: | Marchantiophyta Stotler & Crand.-Stotl. |
| Dosbarthiadau ac urddau[1] | |
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu neu llysiau'r iau (lluosog ac unigol; weithiau llys yr afu neu llys yr iau yn yr unigol). Mae tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu darganfod hyd yn hyn.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Maent yn blanhigion syml heb feinwe fasgwlaidd neu wreiddiau go iawn. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg. Mae rhywogaethau eraill yn tyfu fel thalws gwastad heb goesyn a dail.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Stotler, Raymond E. & Barbara J. Crandall-Stotler (2010). Liverwort Classification at the Rank of Genus and Above. Adalwyd ar 3 Hydref 2010.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Liverwort Tree of Life