Llysiau'r-milwr coch

Oddi ar Wicipedia
Lythrum salicaria
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Urdd: Myrtales
Teulu: Lythraceae
Genws: Lythrum
Rhywogaeth: L. salicaria
Enw deuenwol
Lythrum salicaria
Carl Linnaeus

Llysieuyn blodeuol lluosflwydd sy'n tyfu yn Ewrop yw Llysiau'r-milwr coch sy'n enw lluosog. Mae'n perthyn i'r teulu Lythraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Lythrum salicaria a'r enw Saesneg yw Purple loosestrife.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Llys y Milwr, Gwaedlys, Gwaedlys Mawr, Gwaedllys Mawr, Gwarllys, Gwyarllys, Gwyarllys Pigog, Llys y Milwr Coch, Llysiau'r Milwr Coch.

Mae'n tyfu i uchder o 15 cm, fel arfer mewn gwlyptir. Gosodir y dail mewn parau cyferbyn a'i gilydd, a thyf petalau'r blodyn piws o wefus tiwb y blodamlen (y calycs). Mae'r blodau'n nodweddiadol o'r teulu hwn gan fod y petalau wedi'u crychu fel hen femrwn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: