Llynnoedd Annwn
Math | grŵp o lynnoedd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Annwn |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Penrhyn Llŷn |
Sir | Llanystumdwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.91273°N 4.304089°W |
Lleolir Llynnoedd Annwn ger Chwilog yng nghymuned Llanystumdwy ar benrhyn Llŷn, Gwynedd. Mae'r llynnoedd yn grŵp o dri llyn bychan cyfagos. Ni enwir y llynnoedd ar y map OS 1:50,000 ond mae Frank Ward yn cofnodi'r enw lleol ar lafar arnynt fel 'Llynnoedd Annwn' yn ei gyfrol The Lakes of Wales (1931).[1]
Lleoliad[golygu | golygu cod]
Saif y llynnoedd ger fferm Afon-wen tua 1 filltir i'r de-ddwyrain o Chwilog a thua 3 milltir i'r gorllewin o Gricieth, yn agos iawn i'r môr. Mae lein Rheilffordd Arfordir Cymru yn mynd heibio iddynt ychydig i'r de, rhwng y llynnoedd â'r traeth. Mae'r llynnoedd bychain yn cael eu llenwi gan ffrwd fechan sy'n llifo iddynt o'i tharddle i'r dwyrain o Chwilog.[2]
Enw[golygu | golygu cod]
Cofnodir yr enw gan Frank Ward, arbenigwr ar lynnoedd Cymru.[1] Er nad oes chwedl werin amdanynt wedi goroesi mae'n debyg fod yr enw yn cyfeirio at Annwn (Annwfn), sef yr Arallfyd Cymreig a Cheltaidd.