Llynnau Barlwyd

Oddi ar Wicipedia
Llynnau Barlwyd
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.019122°N 3.921716°W Edit this on Wikidata
Map
Llynnau Barlwyd gyda Moel Penamnen

Dau lyn gerllaw Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd yw Llynau Barlwyd, un gydag arwynebedd o 10 acer a'r llall yn 5 acer. Maent i'r dwyrain o'r briffordd A470 dros Fwlch y Gorddinan (y "Crimea"), ac wrth droed Moel Farlwyd a Moel Penamnen.

Adeiladwyd argae yn 1888 i ehangu'r ddau lyn, a defnyddid y dŵr i gynhyrchu trydan i Chwarel Llechwedd, ychydig i'r de o'r llynnoedd. Difrodwyd yr argae gan y daeargryn yng Ngwynedd yn 1985, a'r flwyddyn wedyn penderfynwyd gostwng lefel y dŵr o 16 troedfedd er mwyn diogelwch. Ceir pysgota am frithyll yn y llynnoedd. Mae Afon Barlwyd yn llifo allan o'r llyn ac yn ymuno ag Afon Goedol gerllaw Llyn Tanygrisiau; mae'r afon yma yn ymuno ag Afon Dwyryd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: