Llyndy
Oddi ar Wicipedia
- Efallai eich bod yn chwilio am llindy.
Annedd a godir dros ddŵr yw yw llyndy, crannog (lluosog: cranogau), neu annedd llyn, sy'n sefyll ar byst yn y dŵr sy'n gosod sylfeini i'r adeiladwaith. Adeiladir llyndai yn bennaf i amddiffyn yn erbyn llifogydd,[1] ac hefyd i gadw fermin allan.[2]
Saif olion llyndai cynhanesyddol (Almaeneg: Pfahlbauten) ar lannau llynnoedd yn ne'r Almaen, y Swistir, Ffrainc, a'r Eidal. Adeiladwyd llyndai yn yr Alpau o Oes y Cerrig hyd Oes yr Haearn, a chred anthropolegwyr cafodd y llyndai hyn eu codi ar gorsydd glannau'r llynnoedd yn hytrach nag ar y dyfroedd.[3]
Ceir llyndai heddiw mewn ardaloedd trofannol ac isdrofannol y byd, er enghraifft Malaysia, Indonesia, Indo-Tsieina, Pilipinas, a De America.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ David M. Bush (June 2004). Living with Florida's Atlantic beaches: coastal hazards from Amelia Island to Key West. Duke University Press. tud. 263–264. ISBN 978-0-8223-3289-3. http://books.google.com/books?id=yUturwVRgPMC&pg=PA263. Adalwyd 27 March 2011.
- ↑ Our Experts. Our Living World 5. Ratna Sagar. tud. 63. ISBN 978-81-8332-295-9. http://books.google.com/books?id=pjK-TG3v-GkC&pg=PA63. Adalwyd 27 March 2011.
- ↑ (Saesneg) Lake Dwellings. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Tachwedd 2012.
Dolenni allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
- (Almaeneg) (Ffrangeg) (Eidaleg) (Iseldireg) (Saesneg) Amgueddfa Pfahlbau