Llyn y Parc

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn y Parc, yn edrych tua'r de.

Llyn yng Nghoedwig Gwydyr yn sir Conwy yw Llyn y Parc neu Llyn Parc. Saif i'r gogledd o Fetws y Coed ac ychydig i'r gorllewin o'r ffordd B5106, 664 troedfedd uwch lefel y môr, ac mae ganddo arwynebedd o 22 acer.

Nid oes pysgod yn y llyn oherwydd y lefel uchel o blwm yn ei ddyfroedd, o ganlyniad i fwyngloddio plwm yn yr ardal yn y gorffennol.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Geraint Roberts 'The Lakes of Eryri, , Gwasg Carreg Gwalch, 1985