Llyn y Garnedd Uchaf

Oddi ar Wicipedia
Llyn y Garnedd Uchaf
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr800 troedfedd Edit this on Wikidata
GerllawAfon Dwyryd, Llyn Mair, Llyn y Garnedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.961275°N 3.998137°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn bychan yn Eryri, Gwynedd, yw Llyn y Garnedd Uchaf. Fe'i lleolir tua 2 filltir i'r gogledd o Faentwrog ger Ffestiniog.[1]

Saif y llyn 800 troedfedd i fyny[2] mewn cwm filltir i'r de o gopa Moelwyn Bach.

Llyn y Garnedd Uchaf

Codwyd argae i greu'r llyn ar gyfer gwaith Chwarel Oakeley ond rwan bod yr argae honno yn adfeiliedig ychydig iawn o ddŵr sydd ar ôl yn y llyn, sy'n gorwedd mewn cors.

Mae ffrwd yn llifo o'r llyn i lawr i Lyn y Garnedd; oddi yno mae'r ffrwd yn llifo i Lyn Mair ac wedyn i Afon Dwyryd ger Maentwrog.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
  2. Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).