Llyn y Foel
Oddi ar Wicipedia
| Llyn y Foel | |
|---|---|
| Lleoliad | Eryri |
| Gwledydd Basn | Cymru |
| Dyrchafiad Arwyneb | 1756 troedfedd |
Llyn yn Eryri yw Llyn y Foel, sy'n rhan o Sir Conwy. Mae'n gorwedd 1756 troedfedd i fyny mewn cwm agored ar lethrau dwyreiniol Moel Siabod. Mae'r gair '(M)oel' yn ei enw yn cyfeirio at Siabod.
Ceir ynys fechan yng nghornel ogleddol y llyn. Dyma darddle ffrwd Afon Ystumiau, un o ledneintydd Afon Lledr, sy'n llifo ar gwrs dwyreiniol o'r llyn i ymuno yn Afon Lledr ger Dolwyddelan. Bwydir y llyn ei hun gan dwy ffrwd fechan sy'n disgyn o greigiau dwyreiniol Moel Siabod.
Mae'n llyn anhygrych braidd. Mae llwybr sy'n dringo Moel Siabod o Gapel Curig yn dringo'r ysgwydd lydan i'r gogledd o Lyn y Foel a dyma'r ffordd hawsaf i'w gyrraedd efallai.