Llyn y Coryn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn y Coryn a Moel Siabod

Llyn bychan yn Eryri yw Llyn y Coryn. Saif ym mhen de-ddwyreiniol cadwyn y Carneddau ychydig dros 1 filltir i'r gogledd o bentref Capel Curig yn Sir Conwy.[1]

Saif y llyn bychan hwn ger y bwlch rhwng bryniau Crimpiau, i'r gogledd, a Chlogwyn Cigfran i'r de.[2]

Gellir dringo i'r llyn trwy ddilyn llwybr o Gapel Curig sy'n mynd heibio iddo i gyrraedd copa Crimpiau.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Map OS 1:25,000 Eryri, Ardal Dyffryn Conwy.
  2. Map OS 1:25,000 Eryri, Ardal Dyffryn Conwy.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.