Llyn Winnipeg

Oddi ar Wicipedia
Llyn Winnipeg
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirManitoba Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd24,400 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr217 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.1167°N 97.25°W Edit this on Wikidata
Dalgylch984,200 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd416 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Llyn yn nhalaith Manitoba, Canada yw Llyn Winnipeg. Saif tua 55 km i'r gogledd o ddinas Winnipeg. Daw'r enw o'r iaith Cree: wīnipēk, "dyfroedd mwdlyd".

Mae gan y llyn arwynebedd o 24,514 km², a hyd o 416 km. Ef yw pumed llyn mwyaf Canada yn ôl arwynebedd a'r mwyaf sy'n gyfangwbl o fewn de Canada. Llifa Afon Saskatchewan, Afon Winnipeg, Afon Dauphin ac eraill i mewn i'r llyn, ac mae Afon Nelson yn llifo allan i Fae Hudson.