Llyn Turkana

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Turkana

Llyn yng ngogledd Cenia, yn cyrraedd hyd at Ethiopia yn y gopledd, yw Llyn Turkana, gynt Llyn Rudolf.

Mae tair afon, afon Omo, afon Turkwel ac afon Kerio, yn llifo i mewn i'r llyn, ond nid oes yr un afon yn llifo allan. O gwmpas y llyn ceir Parc Cenedlaethol Llyn Turkana, sy'n Safle Treftadaeth y Byd. Mae'r ardal yn enwog fel safle darganfod ffosiliau hominid cynnar. Tua 2 filiwn i 3 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd y llyn yn llawer mwy a'r tir o'i gwmpas yn llawer mwy ffrwythlon. Cafodd Richard Leakey ac eraill hyd i nifer o ffosilau dynol cynnar pwysig yma, er enghraifft yn 1984 cafodd Kamoya Kimeu hyd i "Fachgen Turkana", sgerbwd Homo erectus bron yn gyflawn.