Llyn Tsiad

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llyn Tchad)
Llyn Tchad
Mathllyn caeedig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladTsiad, Camerŵn, Nigeria, Niger Edit this on Wikidata
Arwynebedd1,540 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr100 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau13°N 14°E Edit this on Wikidata
Dalgylch2,381,635 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethsafle Ramsar, Tentative World Heritage Site, Tentative World Heritage Site, Tentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion

Llyn mawr, bas yng nghanolbarth Affrica yw Llyn Tsiad (Ffrangeg: Lac Tchad, Saesneg: Lake Chad). Mae ei faint wedi amrywio'n sylweddol dros y canrifoedd ac yn dal i newid heddiw. Mae o bwys economaidd mawr yn yr ardal fel cyflenwad dŵr i tuag 20 miliwn o bobl sy'n byw yn y pedair gwlad sydd o'i gwmpas, sef Tsiad, Camerŵn, Niger a Nigeria.

Mae'n gorwedd yn bennaf yng ngorllewin eithaf Tsiad, yn ffinio ar ogledd-ddwyrain Nigeria. Afon Chari yw'r afon fwyaf sy'n llifo iddo: mae'n cyflenwi 90% o ddŵr y llyn. Ceir nifer fawr o ynysoedd bychain a banciau mwd, a cheir nifer o gorsydd ar ei lan. Mae'n llyn bas iawn - yn cyrraedd dim ond 10.5 metr (34 tr) ar ei ddyfnaf — ac felly mae ei arwynebedd yn newid yn sylweddol o dymor i dymor ac o flwyddyn i flwyddyn yn ôl y dŵr sy'n ei gyrraedd. Does dim allanfa amlwg i'w ddyfroedd, ond mae rhywfaint yn cyrraedd basnau Soro a Bodélé.

Enwir gwlad Tsiad ar ôl Llyn Tsiad. Ystyr y gair tsiad yn yr iaith leol yw "llawer o ddŵr", h.y. "llyn".

Adnodd prin[golygu | golygu cod]

Mae Llyn Tsiad yn enghraifft o'r hyn a allai ddigwydd yn amlach wrth i adnoddau'r ddaear ddod dan bwysau. Mae'r boblogaeth ar ei lan yn tyfu a maint y llyn yn lleihau ar gyfartaledd. Felly ceir gwrthdaro rhwng amaethyddwyr a bugeilwyr ar ei lannau a hefyd gwrthdaro gwleidyddol rhwng y pedair gwlad sydd o'i gwmpas, gyda phawb yn hawlio eu rhan o'r dŵr, sy'n adnodd prin yn y rhan yma o'r byd.

Map o Lyn Tsiad
Llyn Tsiad o'r gofod yn 1968, llun o Apollo 7

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]