Llyn Syfaddan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Crannog Llyn Syfaddan.

Llyn Syfaddan neu Llyn Syfaddon yw llyn naturiol mwyaf de Cymru, gydag arwynebedd o 132 ha (327 acer), tua milltir ar ei hyd a phum milltir (8 km) o gwmpas y glannau. Saif ychydig i'r de-ddwyrain o Aberhonddu, Powys, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a gerllaw pentref Llangors, sy'n rhoi'r enw Saesneg Llangorse Lake iddo. Mae Afon Llynfi yn llifo trwy'r llyn.

Mae'r llyn yn nodedig am gynnig pysgota da am nifer o rywogaethau o bysgod, ond yn arbennig Penhwyad. Yma hefyd ceir crannog, sef sefydliad wedi ei adeiladu ar ynys artiffisial mewn llyn. Y crannog yn Llyn Syfaddan yw'r unig esiampl y gwyddir amdano yng Nghymru, er eu bod yn gyffredin yn Iwerddon a'r Alban. Credir fod yr esiampl yma yn dyddio o ddiwedd y 9fed ganrif. Roedd teulu brenhinol Brycheiniog o darddiad Gwyddelig, ac efallai fod hyn yn egluro presenoldeb crannog yma. Yn 916 ceir cofnod am fyddin Mercia yn dinistrio Brecenanmere, crannog Llyn Syfaddan, yn ôl pob tebyg.

Llên gwerin[golygu]

Adroddir chwedl am y llyn gan Gerallt Gymro, a ddywed fod traddodiad y byddai Adar Syfaddan yn canu pan fyddai gwir dywysog Deheubarth yn gorchymyn iddynt. Yn ôl Gerallt, roedd Gruffudd ap Rhys yn cerdded ar lan y llyn yng nghwmni dau arglwydd Normanaidd, yn y cyfnod pan oedd y Normaniaid wedi cymeryd meddiant o bron y cyfan o Ddeheubarth. Gorchmynodd y ddau Norman i'r adar ganu, heb lwyddiant, ond ar orchymyn Gruffudd codasant i'r awyr a chanu.

Mae hefyd draddodiad am dref wedi ei boddi dan ddyfroedd y llyn fel cosb am ei phechodau.

Cysylltiad allanol[golygu]