Llyn Sarnau

Oddi ar Wicipedia
Llyn Sarnau
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCoedwig Gwydyr Edit this on Wikidata
SirConwy
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd0.012 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr238 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.115065°N 3.826044°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH778591 Edit this on Wikidata
Map

Llyn bychan yng nghymuned Betws-y-Coed, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llyn Sarnau.[1] Saif ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Nghoedwig Gwydyr tua 2 filltir i'r gogledd-orllewin o bentref Betws-y-Coed.[2] Arwynebedd: 3 acer.[3]

Ceir tir corsiog o gwmpas y llyn. Ychydig i'r dwyrain ceir llyn bychan iawn gyda ffordd goedwigaeth yn rhedeg rhyngddo a Llyn Sarnau.[2]

Mae'r ffordd sy'n cysylltu'r Tŷ Hyll ar ffordd yr A5 â'r B5106 ger Trefriw yn mynd heibio i ben gogleddol y llyn wrth ddringo i Nant Bwlch yr Haearn. Tua hanner milltir i'r de ceir Llyn Pencraig.

Llyn Sarnau gyda Moel Siabod

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 5 Mawrth 2022
  2. 2.0 2.1 Map OS 1:25,000 Eryri, Ardal Dyffryn Conwy.
  3. Donald L. Shaw, Gwydyr Forest in Snowdonia: a History, Forestry Commission Booklet 28 (HMSO, 1971)