Llyn Sélingué

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pysgota â rhwydau ar Lyn Sélingué

Llyn artiffisial gyda arwynebedd o 409 km² yn Rhanbarth Koulikoro ym Mali yw Llyn Sélingué. Cafodd ei greu ar ôl i argae trydan dŵr Sélingué gael ei hadeiladau ar afon Sankarani. Mae ei fraich de-orllewinol yn ffurfio'r ffin rhwng Mali a Gini.

Ers ei greu mae dyfroedd y llyn wedi gwella cyflwr amaethyddiaeth yn yr ardal. Pysgotir y llyn gan tuag 8,000 o bobl leol gyda rhan helaeth y pysgod yn cael eu hanfon i'w werthu ym marchnad Bamako.