Llyn Llumonwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Llumonwy

Llyn yn yr Alban yw Llyn Llumonwy (Gaeleg: Loch Laomainn; Saesneg: Loch Lomond). Saif yn rhannol yn Ucheldiroedd yr Alban ac yn rhannol yn yr Iseldiroedd. Mae'r lan ddeheuol rhyw 14 milltir i'r gogledd o ddinas Glasgow.

Mae hyd y llyn yn 24 milltir, a'i led yn amrywio o ¾ milltir i 5 milltir. Ar gyfartaledd, mae ei ddyfnder yn 120 troedfedd (37 medr), a'r man dyfnaf tua 630 troedfedd (190 medr). Gydag arwynebedd o 27¼ milltir sgwar (71 km²), dyma'r llyn mwyaf ar Ynys Prydain o ran arwynebedd, a'r ail fwyaf ar ôl Loch Ness o ran y maint o ddŵr ynddo.

Saif y llyn ym Mharc Cenedlaethol Llyn Llumonwy a'r Trossachs, ac mae'r West Highland Way yn dilyn ei lan ddwyreiniol, gyda'r briffordd A82 yn dilyn y lan orllewinol. Uwchben y lan ddwyreiniol mae Ben Lomond, 3,195 troedfedd (974 medr) o uchder. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd yn y llyn, rhai ohonynt yn ynysoedd wedi ei hadeiladu a elwir yn crannog.

Ceir yr enghraifft gynharaf o enw Cymraeg y llyn ('Lumonoy') yn yr adran ar 'Ryfeddodau Prydain' yn y testun Lladin Historia Brittonum (tua 830). Llyn Llumonwy yw'r ffurf gyfoes safonol yn ôl Geiriadur yr Academi.[1]

Enwogwyd y llyn gan y gân "The Bonnie Banks O' Loch Lomond", a gyhoeddwyd gyntaf tua 1841:

Oh, ye'll tak' the high road, and I'll tak' the low road,
And I'll be in Scotland afore ye;
But me and my true love will never meet again
On the bonnie, bonnie banks o' Loch Lomond.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 836 [Loch Lomond].