Llyn Llanwddyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pentref Llanwddyn yn union cyn ei foddi ym 1888

Cronfa ddŵr yw Llyn Llanwddyn neu Llyn Efyrnwy, y gronfa gyntaf i'w chreu yng Nghymru i gyflenwi dŵr i Loegr. Adeiladwyd yr argae rhwng 1881 a 1888 gan Gorfforaeth Dinas Lerpwl, a oedd yn gweld yr angen am gronfa i sicrhau cyflenwad dŵr digonol i'w dinasyddion. Drwy godi'r argae i ffrwyno nifer o afonydd a nentydd yn Nyffryn Efyrnwy, fe foddwyd hen bentref Llanwddyn.

Llanwddyn[golygu]

Roedd pentref Llanwddyn, ym mhen uchaf Dyffryn Efyrnwy yn bentref gweddol ei faint ac yn eithaf nodweddiadol o bentrefi'r cyfnod. Parhaodd pobl y pentref i fyw yno wrth i'r argae gael ei baratoi gan Gorfforaeth Lerpwl. Codwyd pentref newydd (a gadwodd yr enw Llanwddyn) yn is i lawr y dyffryn yn gartref newydd i'r pentrefwyr. Pan gwblhawyd yr argae, collwyd dau gapel, tair tafarn, deg ffermdy, a 37 o dai o dan y dŵr. Mae olion rhai o'r adeiladau i'w gweld o hyd ar dywydd sych.

Yr argae[golygu]

Roedd yr argae ei hun yn uchelgeisiol iawn yn ei oes, ac fe gymerodd saith mlynedd i'w godi fel y nodwyd eisoes. Hwn oedd yr argae carreg cyntaf yng ngwledydd Prydain, wedi'i adeiladu â thalpiau mawr o lechen Cymru. Costiodd £620,000 i'w godi, tua £22,000,000 yn arian heddiw.

Y gronfa ddŵr[golygu]

Mae'r gronfa ei hun yn enfawr; hi oedd y fwyaf yn Ewrop adeg ei chreu. Pan fo'n llawn mae'n dal 59,666 megalitr o ddŵr (13,000,000 o alwyni), ac mae ei harwynebedd yn 1,121 o erwau, yn gymaint â chwe chant o gaeau pêl-droed. Mae 31 o nentydd, rhaeadrau ac afonydd yn rhedeg i'r gronfa i gyd. Enwir y chwech afon isod:

  • Afon Hirddu
  • Eunant
  • Afon Eiddew
  • Afon Naedroedd
  • Afon Cedig
  • Afon y Dolau Gwynion

Heddiw[golygu]

Erbyn hyn mae Llyn Llanwddyn a'r ardal o'i gwmpas yn fangre hardd sy'n gartref i adar prin o dan ofalaeth yr RSPB, ac yn gyrchfan ar gyfer gweithgareddau agored gan gynnwys hwylio, dringo creigiau a seiclo. Fodd bynnag, fe'i cofir hefyd gan lawer o Gymry fel y cyntaf o nifer o ymosodiadau cynyddol ddadleuol ar dir a daear Cymru i sicrhau cyflenwad dŵr i ddinasoedd Lloegr.