Llyn Great Slave

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Great Slave

Llyn yng ngogledd-orllewin Canada yw Llyn Great Slave (Saesneg: Great Slave Lake, Ffrangeg: Grand lac des Esclaves. Saif yn Nhiriogaethau'r Gogledd-orllewin. Ef yw'r llyn ail-fwyaf sy'n gyfangwbl o fewn Canada; dim ond Llyn Great Bear sy'n fwy.

Mae gan y llyn arwynebedd o 28,400 km² (11,000 mi²) ac mae'n cynnwys 2,090 km³ o ddŵr. Great Slave yw llyn dyfnaf Gogledd America; yn y man dyfnaf, mae'n 614 m (2,015 troedfedd) o ddyfnder. Nid oes cysylltiad rhwng yr enw a chaethwasiaeth, daw o enw llwyth brodorol y Slavey. Llifa Afon Hay ac Afon Slave i mewn i'r llyn, ac mae Afon Mackenzie yn llifo allan. Mae'r trefi o gwmpas y llyn yn cynnwys Yellowknife, Fort Providence, Hay River a Fort Resolution.