Llyn Great Salt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Great Salt o'r gofod

Llyn yn nhalaith Utah yn yr Unol Daleithiau yw Llyn Great Salt (Saesneg: Great Salt Lake). Saif i'r gorllewin o Salt Lake City ar uchder o 1,280 medr uwch lefel y môr.

Mae'r llyn tua 120 km o hyd a 48 km o led, gydag arwynebedd o tua 5,100 km2, er bod y mesuriadau hyn yn amrywio yn ôl lefel y dŵr. Ceir 27% o halen yn ei ddyfroedd, lefel uwch nag yn nŵr y môr. Y rheswm am hyn yw nad oes unrhyw afon yn llifo allan o'r llyn. Dim ond y Môr Marw sy'n fwy hallt.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill