Llyn Goddionduon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Goddionduon o ben Creigiau Gleision.

Llyn yng Nghoedwig Gwydyr yn sir Conwy yw Llyn Goddionduon. Saif 794 troedfedd uwch lefel y môr, ac mae ganddo arwynebedd o 10 acer. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r llynnoedd yng Nghoedwig Gwydyr, mae'n lyn hollol naturiol, ac nid oes argae yno.

Mae ystyr yr enw yn dipyn o ddirgelwch, gan nad oes eglurhad o'r gair "Goddion". Yn ôl rhai ffynonellau, "Llyn y Goeden" oedd yr enw gwreiddiol, a chamgymeriad ar fap a greodd yr enw "Goddionduon".

Ceir brithyll yma, a rheolir y pysgota gan Glwb Pysgota Betws y Coed.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Geraint Roberts 'The Lakes of Eryri, (Gwasg Carreg Gwalch, 1985)