Llyn Glaslyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Glaslyn, gyda Llyn Llydaw yn y cefndir.

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Glaslyn neu Glaslyn. Saif ar lethrau'r Wyddfa, 1,970 troedfedd uwch lefel y môr. Yma mae tarddle Afon Glaslyn.

Ymddengys mai'r enw gwreiddiol oedd Llyn Ffynnon Glas, ac mae Thomas Pennant yn ei alw yn Ffynnon Las. Mae'n lyn gweddol fawr, gydag arwynebedd o 18 acer a dyfnder o 127 troedfedd yn y man dyfnaf, ond ni cheir pysgod ynddo oherwydd llygredd o'r mwynfeydd copr oedd o'i gwmpas yn y gorffennol.

Cysylltir nifer o chwedlau a'r llyn, yn arbennig y chwedl am yr Afanc, anghenfil a drigai yn y llyn. Mae hefyd chwedlau am y Tylwyth Teg yn gysylltiedig ag ef.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Geraint Roberts, The lakes of Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1995). ISBN 0-863811-338-0