Llyn Glas (Cwm Glas)

Oddi ar Wicipedia
Llyn Glas
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanberis Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr2,300 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.080733°N 4.063987°W Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y llyn ger Crib Goch yw hon. Gweler hefyd Llyn Glas (gwahaniaethu).

Llyn yn Eryri, Gwynedd yw Llyn Glas. Fe'i lleolir i'r gogledd o'r Grib Goch, tua milltir i'r gogledd-ddwyrain o gopa'r Wyddfa a thua 4 milltir i'r de-ddwyrain o dref Llanberis.[1]

Llyn Glas a Chwm Glas
Llyn Glas

Saif y llyn bychan hwn 2,300 troedfedd[2] i fyny yng Nghwm Glas, cwm creigiog tua hanner milltir i'r gogledd o'r Grib Goch a thua 1.5 milltir i'r de o'r garreg filltir sydd hanner ffordd i fyny Bwlch Llanberis, rhwng Pen y Pas a phentref Nant Peris. Ceir ynys fechan yng nghanol y llyn. Mae Clogwyn y Person, crib serth sy'n adnabyddus am ei llwybrau dringo, yn ymestyn o lan y llyn i ben Crib Goch.[1]

Hen enwau[golygu | golygu cod]

Does dim pysgod yn y llyn. Gerllaw, tua 100 llath i'r gorllewin, ceir llyn bychan iawn, heb enw ar y map. Yn ôl tystiolaeth lafar a nodir gan Frank Ward yn ei gyfrol The Lakes of Wales, arferid galw'r llynnoedd bychain hyn yn Ffynnon Felen a Ffynnon Frech ers talwm.[2]

Chwedl[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiad llafar lleol, ceir ogof ddu ger Llyn Glas lle cuddiodd y dewin Myrddin gadair aur ynghyd â gemau ac arian rhag eu dwyn gan y Sacsoniaid. Roedd hynny yn amser Gwrtheyrn.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 115 Caernarfon a Bangor.
  2. 2.0 2.1 2.2 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).