Llyn Du (Ceredigion)

Oddi ar Wicipedia
Llyn Du
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYsbyty Ystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.31301°N 3.762314°W Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y llyn yng Ngheredigion yw hon. Am lynoedd eraill o'r un enw gweler Llyn Du (gwahaniaethu).

Llyn yng nghanolbarth Ceredigion yw Llyn Du. Cyfeirnod OS: SN800698. Mae yn nhalgylch afon Hafren.

Gorwedd y llyn tua 535 metr uwch lefel y môr ym mryniau Elenydd tua 4 milltir i'r dwyrain o Bontrhydfendigaid ar ddarn o rosdir gwlyb ar y ffin rhwng Ceredigion a Phowys.

Saif y llyn mewn dyffryn, lle rhed y glaw iddo o lethrau'r mynydd; o'r llyn, llifa Nant Llyn Du. Gerllaw ceir Llyn Fyrddon Fawr a Llyn Fyrddon Fach: llai na chwarter milltir sydd rhwng y ddau lyn ac mae'r unig ffrwd sy'n llifo o Fyrddon Fach yn llifo i Fyrddon Fawr.

Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.