Llyn Cyri

Oddi ar Wicipedia
Llyn Cyri
Llyn Cyri gyda Llynnau Cregennen ac Afon Mawddach yn y pellter
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.686664°N 3.988621°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn ym Meirionnydd, Gwynedd, yw Llyn Cyri. Fe'i lleolir 3.5 milltir i'r gorllewin o gopa Cadair Idris a thua'r un pellter i'r de-ddwyrain o Abermaw.[1] Uchder: 1,148 troedfedd.[2]

Saif y llyn dan greigiau Craig-y-llyn fymryn i'r gogledd o brif grib Cadair Idris. Mae afon fechan yn llifo o ben gogleddol y llyn ac i lawr i Afon Mawddach ger Arthog.[1]

Mae Llyn Cyri yn llyn bas ond ceir digonedd o frithyll ynddo.[2] Mae ar dir comin o fewn ffin Parc Cenedlaethol Eryri. Gellir ei gyrraedd o'r lôn fynydd sy'n cysylltu Arthog a Dolgellau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
  2. 2.0 2.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931), tud. 96.