Llyn Cwm Bychan

Oddi ar Wicipedia
Llyn Cwm Bychan
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.86°N 4.03°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn yn y Rhinogydd yng Ngwynedd yw Llyn Cwm Bychan neu Llyn Cwmbychan.

Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 25 acer, ym mhen uchaf Cwm Bychan, rhwng Rhinog Fawr a Moel Ysgyfarnogod a Chraig Ddrwg. Gerllaw'r llyn mae'r "Grisiau Rhufeinig" yn arwain tua'r dwyrain dros Fwlch Tyddiad; credir nad oes cysylltiad a'r Rhufeiniaid er gwaethaf yr enw, ac mai o'r Canol Oesoedd y maent yn deillio.

Gerllaw'r llyn mae ffermdy Cwm Bychan, hen gartref teulu'r Llwydiad, oedd yn olrhain eu tras cyn belled yn ôl a Bleddyn ap Cynfyn, brenin Gwynedd a Phowys yn yr 11g. Mae Thomas Pennant yn cofnodi ei ymweliad â'r teulu.

Y llyn yma yw tarddle Afon Artro, sydd wedyn yn llifo tua'r de-orllewin i lawr Dyffryn Artro.

Cofio ffilmio The Drum[golygu | golygu cod]

  • Cofiaf y diweddar Brifathro, sef Mr Bennett Williams, brodor o'r Bermo, hefo dawn y gŵr cyfarwydd ganddo, yn yr Ysgol Gynradd yn Nhalsarnau, sir Feirionnydd, yn son am ffilmio 'The Drum' ger Llyn Cwmbychan, a hynny yn ystod mis Awst crasboeth yn y flwyddyn 1937, pryd penderfynodd bryfyn 3 milimedr ran hyn, ie ! dyna chwi pwy ond fo ynte, sef robin y gyrrwr, focha hefo cynffon un o'r mulod eithaf ufudd cyn hynny a geid ar y set. Dechreuodd hwnnw ddangos nerth ei goesau, a dyna wir i chwi a wnaeth gweddill y criw mulod hefyd. Cafwyd cythraul o stampid! Ond hyd y gwn i, ni chynhwyswyd yr olygfa honno yn y film![1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhan o erthygl di-enw yn Eco'r Wyddfa Hydref 2018