Llyn Conglog

Oddi ar Wicipedia
Llyn Conglog
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.006837°N 3.977899°W Edit this on Wikidata
Map
Llyn Conglog

Llyn yn y Moelwynion yng Ngwynedd yw Llyn Conglog. Saif i'r gorllewin o dref Blaenau Ffestiniog, 2,000 troedfedd uwch lefel y môr. Gydag arwynebedd o 18 acer, ef yw'r llyn mwyaf dros 2,000 o droedfeddi o uchder yng Nghymru. Mae'r nant sy'n llifo o'r llyn yn llifo i lawr llechwedd serth i Lyn Cwmorthin islaw.

Ceir pysgota am frithyll yn y llyn. Dywedir i'r brithyll ynddo i gyd gael eu lladd pan rewodd y llyn yng ngaeaf caled 1947, ond fe'i ail-stociwyd gyda chymorth hofrennydd yn 1990,

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)