Llyn Conach

Oddi ar Wicipedia
Llyn Conach
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.522544°N 3.8595°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganClwb Pysgota Tal-y-Bont Edit this on Wikidata
Map

Gorwedd Llyn Conach yn rhan ogleddol mynyddoedd Elenydd yng ngogledd Ceredigion, cwta milltir o'r ffin rhwng y sir honno a Phowys, tua 5 milltir i'r gogledd-orllewin o fynydd Pumlumon a thua 5 milltir i'r de o dref Machynlleth.

Mae'r llyn yn gorwedd tua 420 metr i fyny. Ceir un o goedwigoedd Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar hyd y lan orllewinol a mynydd-dir grugog ar yr ochr arall.

Mae afon Llechwedd-mawr yn tarddu yn Llyn Conach ac yn dynodi'r ffin rhwng Ceredigion a Phowys am ran helaeth ei chwrs. Llifa'r afon fechan honno o ben deheuol y llyn i gyfeiriad y de trwy lynnoedd llai Llyn Dwfn a Llyn Plas-y-mynydd i gyrraedd cronfa ddŵr Nant-y-moch a'r afon Rheidol. O ben gogleddol y llyn mae ffrwd arall, prif lednant afon Einion, yn llifo am rai milltiroedd cyn ymuno yn afon Einion sy'n llifo i afon Dyfi ger Glandyfi.

Gellir cyrraedd Llyn Conach o sawl cyfeiriad trwy ddilyn traciau'r Comisiwn Coedwigaeth a llwybrau, gan gychwyn o Nant-y-moch, Ysgubor-y-coed neu gyffiniau Machynlleth.

Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.