Llyn Coety

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llyn Coedty)
Llyn Coety
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1822°N 3.8647°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganRWE Generation UK PLC Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Llyn ym mwrdeisdref sirol Conwy yw Llyn Coety (weithiau Llyn Coedty neu Cronfa Coedty). Saif yn Nyffryn Conwy uwchben Dolgarrog, tua 900 troedfedd uwch lefel y môr; mae ganddo arwynebedd o tua 12 acer.

Llyn Coedty o ben Moel Eilio.

Prif ffynhonnell dŵr Llyn Coedty yw Afon Porth-llwyd, sy'n llifo i lawr o Lyn Eigiau. O'r llyn mae Afon Porth-llwyd yn llifo dan Bont Newydd yn Nolgarrog cyn llifo i Afon Conwy.

Codwyd argae yma yn 1924 fel rhan o gynllun i gyflenwi dŵr i bwerdy trydan Dolgarrog, a oedd yn ei dro yn cyflenwi trydan i'r gwaith alcam gerllaw. Roedd Llyn Eigiau hefyd yn rhan o'r cynllun yma. Ar 2 Tachwedd, 1925, ar ôl i 26 modfedd o law disgyn mewn pum diwrnod, torrodd yr argae yn Llyn Eigiau uwchben. Gorlifodd y dŵr yn wyllt i lawr i Lyn Coedty, gan achosi i'r argae yno dorri hefyd, a ffrydiodd miliynau o alwyni o ddŵr i lawr yn ddirybudd ar bentref Dolgarrog, gan ladd 17 o bobl. Codwyd pwerdy newydd yn Nolgarrog yn 1925. Gellir gweld ffim ddu a gwyn fud o'r drychineb trwy glicio yma Archifwyd 2006-06-17 yn y Peiriant Wayback.. Ail-adeiladwyd yr argae yn 1926 ac eto yn 1956.

Ffafriwyd yr enw Llyn Coety pan safonnwyd enwau llynoedd Eryri gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Forgrave, Andrew (2023-11-15). "Eryri National Park to use Welsh lake names only to 'safeguard' them for future". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-16.
  • The Lakes of North Wales, gan Jonah Jones, Whittet Books Ltd, 1987
  • The Lakes of Eryri, gan Geraint Roberts, Gwasg Carreg Gwalch, 1985