Llyn Balaton

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa ar lan Llyn Balaton

Llyn mawr yn Hwngari yw Llyn Balaton. Mae'n gorwedd yng ngorllewin y wlad, tua 100 km i'r de-orllewin o'r brifddinas, Budapest. Dyma'r llyn mwyaf yn Hwngari a Chanolbarth Ewrop i gyd. Mae'n llyn o ffurf led hirsgwar a chanddo arwynebedd o 598 km sgwar (231 milltir sgwar). Mae camlas yn cysylltu'r llyn ag un o ledneintiau Afon Daniwb.

Ar ei lannau ceir nifer o winllanoedd sy'n cynhyrchu gwinoedd enwocaf Hwngari. Mae'n ardal boblogaidd gan dwristiaid ers blynyddoedd a cheir nifer o drefi a phentrefi gwyliau ar lan y llyn.

Flag of Hungary.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Hwngari. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.