Llymrïen

Oddi ar Wicipedia
Llymrïen
Llun y rhywogaeth
Map
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Actinopterygii
Urdd: Perciformes
Teulu: Ammodytidae
Genws: Ammodytes
Rhywogaeth: A. tobianus
Enw deuenwol
Ammodytes tobianus
Linnaeus 1758

Pysgodyn sy'n byw yn y môr ac sy'n perthyn i deulu'r Ammodytidae ydy'r llymrïen sy'n enw benywaidd; lluosog: llymrïaid (Lladin: Ammodytes tobianus; Saesneg: Lesser sand eel).

Mae ei diriogaeth yn cynnwys Môr y Gogledd ac mae i'w ganfod ym Môr y Gogledd ac arfordir Cymru.

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Heb ei gwerthuso' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth gan nad oes data digonol.[1]

Pysgota[golygu | golygu cod]

Llymriata[golygu | golygu cod]

Traddodiad o bysgota llymrïaid o'r traeth gydag offer syml ym Mhen Llŷn yw llymrïata. Dyma godnodion rhai o weithredwyr y grefft.

28 Mai 1915 Gorffan palu tatws diweddar. Hel llymriaid.
7 Meh 1917 Hel llymriaid, glaw a trannau. Dal salmon ar y gefnen. (Dyddiadur Griffith Thomas) ..ac mae nhw’n cadw’r traddodiad o hyd.....
7 Mai 2004 Codi 4 o'r gloch y bore i fynd i ddal llymriaid ar draeth Ty'n Tywyn. Roedd yn draddodiad yn Llyn i drigolion y pentrefi gwledig fynd i lawr i'r traethau tywod i ddal llymriaid. Dim ond ar y distyll tra mae'n gwawrio yn ystod mis Mai y mae dal llymriaid. Maent wedi eu claddu yn y tywod ac maent yn symud yn gyflym iawn. Buom ni'll dau yn palu am 2 awr i ddal digon ar gyfer un pryd i 5 ohonnom [www.rhiw.com].

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014