Llygad-llo mawr

Oddi ar Wicipedia
Llygad-llo mawr
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Asterales
Teulu: Asteraceae
Genws: Leucanthemum
Rhywogaeth: L. vulgare
Enw deuenwol
Leucanthemum vulgare
Lam.

Planhigyn lluosflwydd byrhoedlog ydy llygad llo mawr neu weithiau llygad-llo mawr (Leucanthemum vulgare, Saesneg: Ox-eye daisy). Fe'i ceir yn aml ar hen gloddiau, mewn mynwentydd, ar dwyni tywod neu ar ochr y draffordd. Mae'n perthyn i deulu llygad y dydd (Asteraceae). Gall dyfu i fod rhywle rhwng 20 cm a 100 cm o ran uchter gyda'r blodau yn 25 – 50 mm ar draws ac yn blodeuo rhwng Mai a Hydref.

Mae'r blodigau canol yn felyn a'r blodigau rheiddiol yn wyn; mae gan y bractau ymylon brown neu ddu. Siâp hirgrwn (neu ofal) sydd i'r dail, a'r rheiny yn wyrdd tywyll.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]