Llyfrgell Genedlaethol Tunisia
Llyfrgell Genedlaethol Tunisia (Arabeg: المكتبة الوطنية التونسية ; Ffrangeg: Bibliothèque nationale de Tunisie) yw prif storfa gyfreithiol a hawlfraint Tunisia.
Sefydlwyd y llyfrgell yn Tunis ym 1885 fel y Bibliothèque francaise ('Llyfrgell Ffrengig'). Newidwyd yr enw a chreu llyfrgell genedlaethol swyddogol ar ôl i Tunisia ennill ei hannibyniaeth ar Ffrainc ym 1956. Yn 2005 symudodd o'r hen adeilad ym medina Tunis i adeilad newydd ar Boulevard 9 avril, ger Archifdy Cenedlaethol Tunisia. Cafodd yr adeilad newydd ei agor yn swyddogol gan Zine El Abidine Ben Ali, Arlywydd Tunisia, ar 1 Rhagfyr 2005.[1]
[golygu] Llyfrau a llawysgrifau
Mae adran llawysgrifau'r llyfrgell yn cynnwys dros 40,000 teitl mewn 24,000 cyfrol. Dyma un o'r casgliadau llawysgrifau Arabeg mwyaf yn y byd sy'n cynnwys sawl cyfrol brin iawn ac sy'n rhychwantu tua 14 can mlynedd o ddysg, gwyddoniaeth a llenyddiaeth Arabaidd.[2]
Mae'r adran llyfrau printiedig yn cynnwys llyfrau o'r 16eg ganrif hyd heddiw ar sawl pwnc. Llyfrau Arabeg a Ffrangeg yw'r rhan fwyaf o'r rhain, ond ceir cyfrolau mewn tua hanner cant o ieithoedd eraill hefyd.[3]
[golygu] Cyfeiriadau
[golygu] Dolenni allanol
- (Arabeg) (Ffrangeg) (Saesneg) Gwefan swyddogol