Llyfrgell Genedlaethol Bhutan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyfrgell Genedlaethol Bhutan, Thimpu.

Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Bhutan (Dzongkha: Druk Gyelyong Pedzö འབྲུག་རྒྱལ་ཡོངས་དཔེ་མཛོད།) yn 1967 yn Thimphu, prifddinas Bhutan, er mwyn "diogelu a hyrwyddo etifeddiaeth ddiwylliannol a chrefyddol gyfoethog" Bhutan.

Mae'r llyfrgell genedlaethol yn cynnwys nifer o lyfrau am hanes a diwylliant Bhutan a thestunau Bwdhaidd yn yr iaith Dibeteg ac yn y dafodiaith leol ohoni (Dzongkha) a siaredir yn Bhutan. Fe'i lleolir mewn adeilad traddodiadol pedwar-llawr a adeiladwyd yn gartref iddi.

Dolenni allanol [golygu]

Flag of Bhutan.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Bhutan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.