Llyfrgell Frenhinol Denmarc

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Diemwnt Du

Llyfrgell genedlaethol Denmarc a llyfrgell fwyaf Llychlyn yw Llyfrgell Frenhinol Denmarc. Sefydlwyd tua 1648 gan Frederik III. Lleolir heddiw ar bedwar safle: Fiolstræde (canol Copenhagen, gwyddorau cymdeithasol), Amager (dyniaethau), Nørrebro (gwyddorau naturiol a meddygol) a phrif safle Slotsholmen (pob maes). Adeiladwyd adeilad cyntaf safle Slotsholmen ym 1906 fel copi o gapel palas Siarlymaen yn egwlys gadeiriol Aachen. Agorwyd adeilad newydd yn gyfagos i'r hen un ym 1999, a adnabyddir fel y Diemwnt Du (Den sorte diamant) o achos ei orchudd o farmor a gwydr du. Mae'n cynnwys neuadd gyngerdd yn ogystal â'r llyfrgell.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag of Denmark.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ddenmarc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.