Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen

Oddi ar Wicipedia
Llyfrgell Bodley
Mathllyfrgell academaidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlThomas Bodley Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1602 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1602 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolBodleian Libraries Edit this on Wikidata
LleoliadRhydychen Edit this on Wikidata
SirLloegr Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.754°N 1.2551°W Edit this on Wikidata
Cod OSSP5155006415 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganThomas Bodley Edit this on Wikidata
Manylion

Llyfrgell Bodley yw llyfrgell bwysicaf Prifysgol Rhydychen. Mae'n cynnwys nifer fawr o lawysgrifau prin ynghyd â chasgliad helaeth o lyfrau printiedig cynnar.

Sefydlwyd y llyfrgell wreiddiol yn 1409 a chafodd ei hatgyweirio a'i helaethu gan Syr Thomas Bodley rhwng 1598 a 1602. Er 1610 mae'n un o'r llyfrgelloedd yng ngwledydd Prydain sydd â'r hawl i dderbyn copi rhad ac am ddim o bob llyfr a gyhoeddir yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon. Erbyn heddiw mae tua 3 miliwn o gyfrolau yn y llyfrgell.

Ymhlith y cyfrolau Cymreig a Chymraeg ynddi mae Llyfr Coch Hergest, un o'r ffynonellau pwysicaf ar gyfer y chwedlau Cymraeg Canol a elwir y Mabinogi, ynghyd â thestunau rhyddiaith a barddoniaeth eraill.

Llyfr Coch Hergest, ff. 240-241
Eginyn erthygl sydd uchod am Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.