Llyfr y Brenhinoedd

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Ddau lyfr yn yr Hen Destament yw Llyfr y Brenhinoedd

[golygu] Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd

Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd yw'r cyntaf o'r ddau lyfr yn Yr Hen Destament a elwir weithiau gyda'i gilydd yn 'Llyfr y Brenhinoedd'. Hwn yw'r unfed lyfr ar ddeg yn yr Hen Destament canonaidd a'r Beibl Cristnogol. Mae'r awduraeth yn anhysbys.

Gyda'i gymar (Ail Lyfr y Brenhinoedd), Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd (1 Bren) yw ein prif ffynhonell ysgrifenedig am hanes brenhinoedd yr Hebreaid ar ôl y brenin Dafydd. Mae'n ailgydio yn y naratif lle mae'r llyfr blaenorol, Ail Lyfr Samuel, yn gorffen. Ceir ynddo hanes teyrnasiad Solomon a chodi Teml Jerwsalem ganddo. Ar ôl ei farwolaeth ymrannodd y deyrnas yn fân frenhiniaethu a cheir eu hanes yn yr ail lyfr.

[golygu] Ail Lyfr y Brenhinoedd

Ail Lyfr y Brenhinoedd yw'r ail o'r ddau lyfr yn Yr Hen Destament a elwir weithiau gyda'i gilydd yn 'Llyfr y Brenhinoedd'. Dyma'r deuddegfed lyfr yn yr Hen Destament canonaidd a'r Beibl Cristnogol. Mae'r awduraeth yn anhysbys.

Ail Lyfr y Brenhinoedd (2 Bren) yw ein prif ffynhonell ysgrifenedig am hanes brenhinoedd yr Hebreaid ar ôl y brenin Solomon. Mae'n ailgydio yn y naratif lle mae'r llyfr blaenorol yn gorffen. Ar ôl marwolaeth Solomon ymrannodd y deyrnas yn fân frenhiniaethu a cheir eu hanes yn llyfr hwn. Y pwysicaf o'r teyrnasoedd hyn oedd Israel a Jwda. Ceir nifer o gyfeiriadau at y proffwydi Eliseus, Elias ac Eseia hefyd. Ar ôl hanes cwymp Israel i Assyria yn 722 CC mae'r naratif yn canolbwyntio ar hanes Jwda hyd at gyfnod yr Alltudiaeth ym Mabilon.


Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Offer personol