Llyfr Kells

Oddi ar Wicipedia
Llyfr Kells
Enghraifft o'r canlynolcodecs, llawysgrif goliwiedig Edit this on Wikidata
CrëwrSant Pedr Edit this on Wikidata
Deunyddfelwm Edit this on Wikidata
Label brodorolLeabhar Cheanannais Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydluc. 800 Edit this on Wikidata
LleoliadColeg y Drindod, Dulyn Edit this on Wikidata
Enw brodorolLeabhar Cheanannais Edit this on Wikidata
RhanbarthDulyn Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.bookofkells.ie Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dechrau Efengyl Ioan yn Llyfr Kells.

Llawysgrif addurniedig yn dyddio o tua 800 OC yw Llyfr Kells (Gwyddeleg, Leabhar Cheanannais). Ystyrir y llawysgrif, sy'n awr yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, yn un o uchafbwyntiau celfyddyd Geltaidd. Mae'n cynnwys y pedwar efengyl yn Lladin, gyda deunydd eglurhaol a rhagarweiniol.

Daw'r enw o Abaty Kells, yn Kells, Swydd Meath yn Iwerddon. Yn draddodiadol, cysylltir y llawysgrif a Sant Colum Cille, ond y farn ymysg ysgolheigion yw ei bod yn ddiweddarach, yn dyddio o gyfnod tua'r flwyddyn 800. Ceir nifer o ddamcaniaethau am darddle'r llawysgrif. Y farn fwyaf cyffredinol ar hyn o bryd yw ei fod wedi ei ddechrau ar ynys Iona yn yr Alban a bod gwaith wedi parhau arno wedi iddo gael ei symud i Kells. Mae'r llawysgrif yn anorffenedig.

Ceir cofnod ym Mrut Wlster am 1009 i'r llawysgrif gael ei dwyn, ond iddi gael ei hail-ddarganfod, heb y clawr aur, ychydig fisoedd wedyn.