Llyfr dysgwr

Oddi ar Wicipedia

Mae llyfr dysgwr yn llyfr sy'n helpu dysgwyr i ddysgu ieithoedd newydd, drwy wersi ffurfiol, ymarferion darllen ayb.

Gwerslyfrau CBAC[golygu | golygu cod]

Mae gwerslyfrau cyfoes, fel arfer, yn dilyn dull o ddysgu a sefydlwyd gan CBAC[1]:

  • Mynediad (melyn): Dyma'r lefel isaf addas ar gyfer pobl sy ddim yn siarad Cymraeg o gwbl - ddechreuwyr llwyr
  • Sylfaen (gwyrdd): Lefel addas ar gyfer pobl sy'n deall tipyn o'r iaith - fel arfer ar ôl dysgu am flwyddyn
  • Canolradd (glas): Lefel addas ar gyfer pobl sy'n gallu siarad eithaf da - fel arfer ar ôl dysgu am ddwy neu dair blynedd
  • Uwch (porffor): Lefel addas ar gyfer pobl sy ddim yn rhugl ond sy'n gallu siarad braidd o dda, ac efallai codi hyder ynddynt
  • Hyfedredd (du): Dyma'r lefel uchaf a gynigir. Mae'r cymhwyster hwn yn agored i siaradwyr iaith gyntaf yn ogystal â siaradwyr ail iaith.

Mae CBAC yn creu gwerslyfrau yn fersiwn y De a fersiwn y Gogledd. Mae sawl cwrs Cymraeg yn defnyddio'r llyfrau swyddogol, ond mae llawer o gyrsiau yn defnyddio'u llyfrau eu hunain, ond yn dilyn yr un maes llafur.

Nofelau dysgwr[golygu | golygu cod]

Fel ymateb i angen dysgwyr i fwynhau darllen, mae sawl cyhoeddwr yn creu nofelau dysgwyr ers y chwedegau, sy'n defnyddio iaith symlach nag arfer, neu'n rhoi geirfa yng nghefn y llyfr neu ar waelod pob tudalen. Ceir sawl genre - nofelau ffuglen (e.e. Pwy sy'n cofio Siôn), nofelau ffuglen hanesol (e.e. Ifor Bach), nofelau ffugwyddynol (e.e. Deltanet), ac ati. Maen nhw'n rhoi cyfle i ddysgwyr ddysgu geirfa newydd, adeiladu ar ei iaith a mwynhau darllen a hynny ar gyfer pob math o ddysgwyr: o lefel mynediad (e.e. e-ffrindiau) i lefel uchaf ac mae'n bosib i bobl sy'n rhugl yn iaith lafar wella eu darllen hefyd trwy ddefnyddio'r math hwn o lyfrau.

Mae llyfrau eraill i ddysgwyr yn gynnwys Fi, a Mr Huws[dolen marw] gan Mared Lewis, cyfres Blodwen Jones Archifwyd 2017-07-22 yn y Peiriant Wayback. gan Bethan Gwanas, Sgŵp! gan Lois Arnold, Budapest[dolen marw] gan Elin Meek a Dysgu Byw Archifwyd 2017-01-29 yn y Peiriant Wayback. gan Sarah Reynolds.

Cylchgrawn dysgwyr[golygu | golygu cod]

Mae cylchgronau'n gallu rhoi'r cyfle i ddysgwyr i ddilyn materion cyfoes. Yn y Gymraeg, nid oedd ond un cylchgrawn dysgwr yn 2013: Lingo Newydd,[2] ac mae e'n cefnogi bob lefel dysgu trwy ysgrifennu pob erthygl ar lefel mynediad (mewn glas), ar lefel sylfaen (gwyrdd) ac ar y lefel uchaf (coch).

Mae parallel.cymru yn cylchgrawn arlein sy'n darparu erthgylau, llyfrau ac adnoddau dwyieithog am ddim.

Cylchgrawn plant yw WCW a'i ffrindiau[3], ond mae e'n cynnwys tudalen gymorth (uniaith Saesneg) i rieni nad ŷnt yn siarad Gymraeg, i esbonio'r erthyglau a'r gemau trwy'r cylchgrawn ac i alluogi rhieni di-Gymraeg i fwynhau'r cylchgrawn gyda'u plant.

Llyfrau dysgwyr eraill[golygu | golygu cod]

Mae sawl math arall o lyfrau dysgwyr. Yn ddiweddar, rhyddhaodd y Lolfa gyfres newydd i ddysgwyr yn cynnwys llawer o storïau neu jôciau byr gan sawl awdur i roi cyfle i ddysgwyr i ddarllen tipyn bob dydd, ar sawl pwnc. Mae cyfres Stori Sydyn yn llyfrau hyd at 128 tudalen, maent wedi'u cynllunio er mwyn hybu darllen ymhlith pobl hŷn, a darllenwyr llai hyderus i ddarllen mwy.

Mae sawl llyfr Saesneg wedi cael eu cyfieithu i mewn i'r Gymraeg sydd yn addas i ddysgwyr, ee Roald Dahl Archifwyd 2016-08-02 yn y Peiriant Wayback. gan Elin Meek, Merch Ar-lein gan Eiry Miles a Harri Potter a Maen yr Athronydd Archifwyd 2015-10-08 yn y Peiriant Wayback. gan Emily Huws.

Llyfrau eraill sydd yn ffeithiol gan gynnwys cyfres Ar Ben Ffordd[dolen marw] gan Y Lolfa, Ble Mae'r Gair[dolen marw] gan Jo Knell, Cant y Cant Archifwyd 2017-02-01 yn y Peiriant Wayback. gan R. Alun Charles a The Welsh Learner's Dictionary Archifwyd 2020-08-14 yn y Peiriant Wayback. gan Heini Gruffudd. Mae rhestr o lyfrau sydd yn addas i ddysgwyr, gyda sylwadau o'r awduron, yw'r yma: http://parallel.cymru/?p=1428

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]