Llychlynwyr yng Ngalisia

Oddi ar Wicipedia
Map yn dangos ymestyniad y Sgandinafiaid yn:
     yr 8g      y 9g      y 10g      yr 11g      - sy'n dynodi ardaloedd a ddioddefodd llawer o ymosodiadau achlysurol gan y Llychlwynwyr Sgandinafaidd, er na wnaethant wladychu yno.

Cafwyd ymosodiadau gan y Llychlynwyr ar Alasia rhwng y 9fed a'r 12g ac roedd Galisia'n allweddol yn ymgyrch y Llychlynwyr Sgandinafaidd i fasnachu, rheibio a lladrata yn arfordiroedd Portiwgal a De Sbaen.[1]

Yn ddiwylliannol ac yn economaidd, cysylltwyd Gorllewin Ewrop gan lwybr morwrol a alwyd gan y Llychlynwyr yn Vestvegr (tebyg i 'west way' yn Saesneg) a fu cyn hynny'n llwybr pwysig yn natblygiad y Celtiaid. Roedd Brenhiniaeth Galisia hanner ffordd rhwng gogledd a de'r llwybr hwn: rhwng Cefnfor yr Iwerydd a'r Môr Canoldir a thrwyddi yr hwyliodd yr holl fasnachu rhwng Portiwgal, De Sbaen ac Ynys Prydain ac Iwerddon. Dyma bwysigrwydd Galisia, felly, i'r Llychlynwyr (a'r Normaniaid), fel y Celtiaid cyn hynny.

Mae'r cofnod cyntaf o ymosodiadau'r Llychlwynwyr i'w ganfod yn yr Annales Bertiniani, yn Awst 844 pan hwyliodd eu cychod i fyny aber Afon Garonne (sydd heddiw yn Ffrainc) ac i Galisia gan ddod i'r lan yn ardal Farum Brecantium. Rheibiwyd sawl pentref ac eglwys ar y ffordd, mae'n debyg. Yna, wedi brwydr fawr aethant ymlaen i'r dref a elwir heddiw yn Lisbon. Ychydig wedi hynny, ceir chwedl am yr Esgob Gonzalo Bretoña a welodd gychod y Llychlynwyr yn dod yn nes, ac a weddiodd i'r nef am gymorth. Boddwyd y rhan fwyaf o'r cychod gan storm enfawr, yn ôl yr hanes.

Dros y canrifoedd, dioddefodd yr ardal yn enbyd gan ymosodiadau Sgandinafaidd, a cheir sawl gwyl a cherflun i gofio'r cysylltiad hwn yn ogystal â hen greiriau. Yr wyl fwyaf yw honno yn Catoira a gynhelir ar y Sul cyntaf yn Awst.[2] Credir hefyd i nifer ohonynt aros yn yr ardal, gan briodi i mewn i'r teuluoedd Celtaidd, brodorol.[3]

Un o'u cyrchfannau oedd Jakobsland, a adnabyddir heddiw fel Santiago de Compostela, a oedd, yn ôl y sôn yn llifeirio o aur ac arian. Gelwir Catoira hyd heddiw yn 'yr allwedd i Galisia', ac er mwyn cyrraedd Eglwys Gadeiriol Santiago, roedd yn rhaid pasio caer gref Catoira. Gefeilliwyd Catoira gyda Frederikssund, Denmarc er mwyn cadarnhau'r cysylltiad Sgandinafaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Tamén denominados normandos ou lordimani, nos documentos galegos da época das vagas.
  2. www.donquijote.org; adalwyd 16 Mehefin 2015
  3. Prifysgol Aberdeen Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 16 Mehefin 2015