Llwytyn melyn

Oddi ar Wicipedia
Semiaspilates ochrearia
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Geometridae
Genws: Aspitates
Rhywogaeth: A. ochrearia
Enw deuenwol
Aspitates ochrearia
(Rossi, 1794)[1]
Cyfystyron
  • Phalaena ochrearia Rossi, 1794
  • Napuca ochrearia
  • Semiaspilates ochrearia
  • Aspitates parvularia Lempke, 1952
  • Nyctiphanta laetula Hulst, 1896

Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Geometridae yn urdd y Lepidoptera yw llwytyn melyn, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy llwytiaid melyn (-ion); yr enw Saesneg yw Yellow Belle, a'r enw gwyddonol yw Semiaspilates ochrearia.[2][3] Ei diriogaeth ydy Ewrop a Gogledd America.

Lled adenydd yr oedolyn ydy 25–34 mm a gellir eu canfod yn hedfa rhwng Ebrill a Mehefin ac eto rhwng Awst a Medi h.y. ceir dwy genhedlaeth ohonynt.[4]

Planhigion llysieuol ydy prif fwyd y siani flewog, yn enwedig: Daucas carota a Plantago cornopus.[5] Mae hi i'w gweld rhwng Ebrill a Mehefin. Mae'n cysgu drwy'r gaeaf ac yn creu chwiler yn y gwanwyn.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r llwytyn melyn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Fauna Europaea
  2.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  3. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  4. "LOT Moths and Butterflies". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-26. Cyrchwyd 2012-09-30.
  5. UKmoths