Robert Lloyd (Llwyd o'r Bryn)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llwyd o'r Bryn)
Robert Lloyd
FfugenwLlwyd o'r Bryn Edit this on Wikidata
Ganwyd29 Chwefror 1888 Edit this on Wikidata
Llandderfel Edit this on Wikidata
Bu farw28 Rhagfyr 1961 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdur Cymraeg, beirniad ac eisteddfodwr brwd oedd Robert Lloyd, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Llwyd o'r Bryn (29 Chwefror 188828 Rhagfyr 1961). Mae ei lyfr adnabyddus Y Pethe yn llawn o ddisgrifiadau ac atgofion o'i fro enedigol a'i chymdeithas drwyadl Gymraeg.

Cyfrol ar Llwyd gan ei ferch Dwysan Rowlands; 1983

Ganed Llwyd o'r Bryn ar fferm ei rieni rhwng Cefnddwysarn a Llandderfel, ger Y Bala, Meirionnydd, yn 1888. Gweithiodd ar fferm ei dad a daeth ei brofiad o fyd amaeth a diwylliant anghydffurfiol y fro yn ddylanwad mawr arno. Bathodd y term 'Y Pethe', teitl ei gyfrol enwog, i gynrychioli'r traddodiad gwerinol Cymraeg diwylliedig a'i werthoedd gorau.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Y Pethe (1955)
  • Diddordebau Llwyd o'r Bryn (1967). Casgliad o'i lythyrau hunangofiannol, golygwyd gan Trebor Lloyd Evans
  • Adlodd Llwyd o'r Bryn (1983). Golygwyd gan ei ferch Dwysan Rowlands.