Llwybr Arfordir Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Llwybr Arfordir Ceredigion
Mathcoastal path Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2477°N 4.2557°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn llwybr hir 65 millltir (105 km) sy'n ymestyn o Fachynlleth (52°35′27″N 3°50′48″W / 52.5909°N 3.8467°W / 52.5909; -3.8467 (Ceredigion Coast Path, northern end)). i Aberteifi (52°04′52″N 4°39′39″W / 52.0810°N 4.6608°W / 52.0810; -4.6608 (Ceredigion Coast Path, southern end)). Mae'n un o wyth llwybr rhanbarthol ar Lwybr Arfordir Cymru, sy'n 870 milltir o hyd ac a agorwyd yn 2012.[1]

Agorwyd Llwybr Arfordir Ceredigion yng Ngorffennaf 2008, a chynyddodd y nifer o ymwelwyr i'r ardal.[2] Mae'r rhan hon o'r arfordir o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac wedi'i chofrestru fel Arfordir Treftadaeth. Man cychwyn y rhan ddeheuol yw'r cerflun efydd o ddyfrgi, ger y bont ar ochr ogleddol Afon Teifi (SN177458). Man cychwyn yr ochr ogleddol yw'r gofeb rhyfel ym Machynlleth (SN609940).[3]

Tresaith o'r llwybr

Is-lwybrau lleol[golygu | golygu cod]

Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft:

  1. Llwybr Aberaeron (SN458628). Mae'r daith hon yn 3.4 milltir o hyd ac yn dilyn Llwybr yr Arfordir i'r de o Aberaeron cyn troi dros y dir serth a dychwelyd drwy'r wlad. Gwelir nifer o adar prin ar ddiwrnod da. Y Cyngor Sir sy'n gofalu am y llwybr hwn.[4]
  2. Taith o amgylch Llangrannog (SN312542). Taith gylchol 4 milltir yw hon, gyda rhai llethrau serth a golygfeydd godidog o Benrhyn Llŷn. Yn y bae saif Carreg Bica, sef dant y Cawr Bica, yn ôl y chwedl a rwygwyd o'i geg ac a daflwyd i'r mor.
  3. Cwmtudu i Gei Newydd. O ran anhawster, gellir dweud fod y llwybr hwn yn ganolig, ac yn 8 milltir. Mae'n cychwyn ac yn gorffen ym maes parcio Cwmtudu, neu faes parcio Cei Newydd. Bu smyglo yn rhan bwysig o'r economi leol yn y 18g. Tua chanol y 19g, daeth Ceinewydd yn borthladd pwysig gan ddarparu calch i'r ffermydd lleol. Gwelir hen odyn galch yng Nghwmtudu, ar fin y dŵr.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "All-Wales Coast Path Nears Completion". Newyddion y BBC, 17 Hydref 2011; adalwyd 2 Ionawr 2012
  2. Andrew Morgan, "The All Wales Coast Path: A Money Spinner for Wales?", Ramblers Cymru E-Newsletter (Mehefin 2011). Elusen y Cerddwyr (Ramblers Charity), adalwyd 3 Ionawr 2012.
  3. Liz Allan Liz, Walking the Ceredigion Coast Path: From Cardigan to Borth (Machynlleth: Kittiwake Press, 2009)
  4. "Arfordir Aberaeron" (PDF). Ceredigion Coast Path. Cyngor Sir Ceredigion. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-07-25. Cyrchwyd 13 Awst 2013.

Oriel[golygu | golygu cod]