Llugaeron

Oddi ar Wicipedia
Llugaeron
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Ericales
Teulu: Ericaceae
Genws: Vaccinium
Is-enws: Oxycoccus
Rhywogaethau
Ardal lle ceir Llugaeron yn y genws Oxycoccus: Coch: Llugaeron Cyffredin. Oren: Llugaeron Bychain. Gwyrdd: Llugaeron Americanaidd.

Grŵp o blanhigion bythwyrdd gyda ffrwythau bychain, coch arnynt yw Llugaeron. Maent i'w canfod mewn corsydd asidig yn ardaloedd oerach yr Hemisffer Gogleddol. Mae'r planhigion yn tyfu ar ffurf llwyni bychain 5–20 cm o daldra, neu winwydd sy'n cropian yn llorweddol hyd at 2 m o hyd.[1] Mae gan y planhigion goesau tenau caled gyda dail bychain gwyrdd.

Mae'r blodau yn binc tywyll gyda phetalau arbennig sy'n atblygu gan adael y styl a'r briger yn hollol agored ac yn pwyntio allan o'r planhigyn. Cânt eu peillio gan wenyn mêl cyffredin. Mae'r ffrwyth yn aeron epigynol sydd yn fwy na maint dail y planhigyn; mae'r aeron yn wyn i gychwyn ond yn troi'n goch tywyll wrth iddynt aeddfedu. Mae'r ffrwyth yn fwytadwy ac mae ganddo flas asidig sy'n gallu gorlethu'r melyster.

Rhinweddau meddygol[golygu | golygu cod]

Credir ei fod yn dda at lid y bledren (cystitis).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) About Cranberries. Cranberry Institute.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ffrwyth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.