Lloyd Williams

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lloyd Williams
Lloyd Williams. Wales Grand Slam Celebration, Senedd 19 March 2012.jpg
Enw llawn Lloyd Williams

Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymreig yw Lloyd Williams (ganwyd 30 Tachwedd 1989, Caerdydd, De Morgannwg). Mae'n chwarae fel mewnwr i'r Gleision. Mae'n fab i'r sylwebydd a'r cyn-fewnwr rhyngwladol Brynmor Williams.

Addysg [golygu]

Mynychodd Lloyd Williams Ysgol Gyfun Bro Morgannwg.

Gyrfa [golygu]

Cynrychiolodd Lloyd Williams dîm dan 20 a thîm saith-bob-ochr Cymru. Ymunodd gyda charfan hyfforddi tîm Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2011 ym mis Mehefin 2011. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad yn erbyn Yr Ariannin ar 20 Awst 2011.

Cyfeirnodau [golygu]