Llosgi tai haf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ymgyrch yn 80degau'r ugeinfed ganrif yn tanlinellu problemau tai lleol a'r problemau a achoswyd gan dai haf yng Nghymru, yn enwedig yn y Fro Gymraeg, oedd yr ymgyrch llosgi tai haf. Drwy'r wythdegau a dechrau'r nawdegau fe losgwyd neu ddifrodwyd dros 200 o dai gwyliau ac fe ymosodwyd ar swyddfeydd asiantwyr gwerthu tai yng Nghymru a Lloegr. Meibion Glyndŵr hawliodd gyfrifoldeb am y mwyafrif llethol o'r digwyddiadau hyn, ond mae pwy oedd y mudiad hwn yn dal i fod yn ddirgelwch.

Llosgwyd dros dau gant o dai haf, swyddfeydd gwerthu tai, ceir a chychod i gyd dros y cyfnod, o Ben Llŷn i Sir Benfro ac o Sir Fôn i Glwyd. Targedwyd hefyd fusnesau Seisnig yng Nghymru. Ar 12 Rhagfyr 1979 llosgwyd pedwar tŷ haf ac erbyn diwedd y mis yr oedd wyth wedi eu llosgi. Dyma oedd dechrau'r ymgyrch.

Un mudiad a hawliodd gyfrifoldeb oedd Meibion Glyndŵr. Roedd y cyfryngau yn derbyn llythyron oddi wrth "Rhys Gethin" yn hawlio cyfrifoldeb am y gweithrediadau ar ran y Meibion.

Methiant fu ymdrechion yr heddlu i ddal y rhai oedd yn gyfrifol am y llosgi. Yn wir roedd yn gred gyffredinol bod llawer o gydymdeimlad gan y cyhoedd gyda'r ymgyrch ac hyd yn oed gan rai o aelodau'r heddlu cyffredin.

Yr unig un i'w erlyn yn llwyddiannus yn y llys oedd Siôn Aubrey Roberts, a hynny nid am losgi tŷ, ond am anfon ffrwydriadau drwy'r post at aelodau o'r Blaid Geidwadol, gan gynnwys Wyn Roberts yr Is-Ysgrifennydd Gwladol yn y Swyddfa Gymreig ar y pryd, ac at ddau aelod blaenllaw o'r tim heddlu a ymchwiliai i mewn i'r ymgyrch. Roedd Roberts yn un o dri a gyhuddwyd o gynllwynio i achosi ffrwydriadau, yn Rhagfyr 1991 a Ionawr 1992, ond fe gafwyd y ddau arall, Dewi Prysor Williams a David Gareth Davies, yn ddi-euog.

Arestiwyd nifer o bobl eraill yn ystod yr ymgyrch. Ar Sul y Blodau, fis Mawrth 1980, arestiwyd dros 60 o genedlaetholwyr mewn cyrch heddlu o'r enw Operation Tân ond rhyddhawyd y rhain o fewn 3 diwrnod heb gyhuddiad. Yn 1990, arestiwyd pedwar o actorion teledu blaenllaw Cymraeg, gan gynnwys Bryn Fôn, a gadwyd yn y ddalfa am dri diwrnod cyn ei ryddhau heb gyhuddiad.