Llong awyr
Mae'r llongawyr (Saesneg: airship) yn wrthrych ysgafnach nac aer, ac felly'n codi o'r ddaear. Yn wahanol i'r balwn aer poeth, fodd bynnag, mae'n ganddi beiriant sy'n ei galluogi i symud dan ei stem ei hun, yn hytrach na dibynnu ar y gwynt. Fel arfer, mae ei hamlen yn cynnwys nwy ysgafn megis heidrogen neu heliwm.
Tad y 'dirigible' (fel yr oeddynt yn cael eu galw ar y cychwyn oedd Liwtenant Jean Baptiste Marie Meusnier (1754–93). Ar 3 Rhagfyr 1783, cyflwynodd papur hanesyddol i Academi Ffrainc: "Memoire sur l'equilbre des Machines Aerostatique" (Memorandwm ar gydbwysedd peiriannau aerostatig).
Y Rhyfel Byd Cyntaf [golygu]
Yn 1916 bomiwyd Tal-y-bont gan awyrlong Zeppelin yr Almaenwyr ond ni lladdwyd neb; dyma'r unig dro yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf y cafwyd ymosodiad ar Gymru o'r awyr.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Reference Wales; golygydd John May; Gwasg Prifysgol Cymru; 1994